Maria Hayes: celfyddydwaith, darlunio ac addysg

Mae gwaith Maria Hayes yn llawn egni graffig sy'n gorfforol. Mae symud, bron yn llythrennol, yn cael ei gyfleu trwy egni ei chorff ei hun fel y mae'n gadael ei ôl ar ei dewis gyfryngau...

Mae'r cysondeb yn ei gwaith yn fath o lawysgrif, llinell ac ystum sydd i'w gweld dro ar ôl tro mewn gwahanol themâu a projectau.

Mike Tooby,
Cyfarwyddwr, Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru.

Maria Hayes: celfyddydwaith, darlunio ac addysg

Ers 1986, bu Maria yn gwneud ac yn dangos gwaith mewn orielau ac mewn digwyddiadau byw trwy hyd a lled y DU. Mae'r rhan fwyaf o waith Maria yn ddau ddimensiwn, gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau gan gynnwys peintio, gwneud printiau, lluniadu a chyfryngau cymysg. Mae hi'n cael ei hysbrydoliaeth yn nhirwedd Gogledd Cymru ac yn y ffurf ddynol.

celfyddydwaith gan Maria HayesMae gwaith Maria mewn casgliadau preifat a chyhoeddus gartref a thrwy'r gwledydd ill dau.

Mae Maria hefyd wedi chwilio'n drylwyr y cysylltiad rhwng y llinell a dynnir a'r ffigwr yn symud ac mae wedi datblygu ffurf ar "beintio actol" byw ar y cyd â chwmnïau theatr a dawns megis Volcano Theatre a Paul Davies ( Dawns Gogledd-Ddwyrain Cymru).

Mae Maria yn cyfuno'r arfer yma â gwaith addysg a hyfforddi mewn ysgolion, orielau a sefydliadau Addysg Uwch ledled Cymru a'r DU. Comisiynir Maria yn rheolaidd i ddyfeisio a thraddodi gweithdai a chyrsiau hwy ym myd addysg y celfyddydau ac orielau.

Am ragor o fanlylion ynghylch gwaith addysg a hyfforddi Maria, ymwelwch â'r adran addysg.

Mae darlunio yn gainc newydd yng ngwaith Maria yn dilyn cwblhau cwrs yn NEWI, Wrecsam 2005/6. Gan ymhelaethu ar yr agweddau darluniadaol ar ei harfer mewn Celfyddyd Gain, mae Maria yn magu arddull bersonol fel darluniwr. Mae ganddi brofiad o lyfrau plant, dyluniadau logos ac erthyglau golygyddol. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar luniadau â llaw gyda pheth defnydd o ymyriadau digidol. Mae hwn yn ddatblygiad cyffrous ac mae hi'n edrych ymlaen at ddatblygu ei ffolio o ddarnau comisiwn.

Am ragor o fanylion ynghylch arfer darlunio Maria, ymwelwch â'r adran ddarlunio.

Cyfieithu

Celfyddydwaith

  • Vesica Piscis
  • Blodeuwedd
  • Manod Mud Woman

Cliciwch ddelwedd am fersiwn fwy

Darlunio

  • Communication Difficulties
  • Little Red Riding Hood #4
  • The Boy Who Lost His Soul

Cliciwch ddelwedd am fersiwn fwy

Addysg

  • Rogues Gallery
  • Conference of the Birds
  • Heaven Earth and Hell

Cliciwch ddelwedd am fersiwn fwy