Mae Maria Hayes yn artist sy'n ysbrydoli. Yn ystod y deuddeng mlynedd a aeth heibio rwyf wedi gweithio ar brojectau dawns/celfyddyd lawer, a fu'n ddiwahân yn hyfryd o foddhaol. Mae ei pharodrwydd a'i gallu i gychwyn ac i ymateb, ill dau, mewn sefyllfa weithdy yn werthfawr dros ben. Mae ei gweithdai yn hyddeall i bob oed a gallu ac maen nhw'n cyfleu ei deheurwydd a'i hawch am y celfyddydau. Mae Maria yn dwyn i'w chanlyn balet eang o liwiau y mae iddyn nhw'r potensial i gyfoethogi bywyd pawb.
Rachel Freeman
Cyfarwyddwr, Blue Eyed Soul Dance Company
Addysg a Hyfforddiant
Mae gan Maria ugain mlynedd o brofiad yn dyfeisio ac yn traddodi gweithdai a chyrsiau hyfforddi graenus yn y celfydddydau mewn amrywiaeth o leoliadau addysgiadol ac yn y celfydddydau, ledled y DU a thramor. Mae ganddi brofiad o weithio gyda phob oed a gallu.
Mae Maria yn credu'n gadarn fod yna artist posib ym mhawb ac mae wedi dyfeisio ymarferion a dulliau cyfareddol lawer i alluogi grwpiau ac unigolion i ddarganfod y broses greadigol. Trwy astudio sut rydym yn dysgu a sut y mae'r broses greadigol yn gysylltiedig â'r broses ddysgu mae Maria yn cynnig gweithdai cyffrous a datblygiadol y mae'n amcan ganddyn nhw roi profiad gweddnewidiol, trwy wneud celfyddyd, i'r cyfranwyr, boed 3 neu 93 oed.
Mae Maria yn traddodi gweithdai mewn amrywiaeth o gyfryngau ac mae'n gweithio naill ai ar ei phen ei hun neu ar y cyd ag artistiaid a chelfyddydau eraill. Mae ar gael ar gyfer gweithdai lluniadu, peintio, cerflunio a pherfformio/mewnosod.
Yn ogystal, mae Maria wedi dyfeisio diwrnodiau hyfforddi i athrawon, artistiaid a phroffesiynolion eraill ac arnyn nhw angen hwb creadigol. Mae hi'n gallu teilwra gweithdai/hyfforddiant i gyd-fynd â'ch anghenion ac mae'n croesawu ymholiadau.
Mae ei ffïoedd yn amrywio o £200 - £500 y dydd a theithio a deunyddiau (a llety os oes angen).
Am ddelweddau ac enghreifftiau o waith Addysg a wnewch chi glicio'r delweddau ar y dde.












