Maria Hayes: celfyddydwaith, darlunio ac addysg

Celfyddydwaith

Mae gwaith Maria Hayes yn llawn egni graffig sy'n gorfforol. Mae symud, bron yn llythrennol, yn cael ei gyfleu trwy egni ei chorff ei hun fel y mae'n gadael ei ôl ar ei dewis gyfryngau...

Mae'r cysondeb yn ei gwaith yn fath o lawysgrif, llinell ac ystum sydd i'w gweld dro ar ôl tro mewn gwahanol themâu a projectau.

Mike Tooby,
Cyfarwyddwr, Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru.

Ers cwblhau ei hastudiaethau ym 1986 mae Maria yn cyson ddatblygu ac arddangos ei gwaith Celfyddyd Gain. Bellach mae gan Maria gorff o waith i'w arddangos a'i werthu yn ei stiwdio. Cynrychiolir ei gwaith mewn casgliadau preifat a chyhoeddus ill dau, gartref a thramor.

Mae themâu Maria yn dychwelyd yn gyson at y ffurf ddynol, y dirwedd, cerddoriaeth a symud. Mae â wnelo'i gwaith â chysylltu byd gwyliadwy pobol a natur â'i byd mewnol o deimladau a'r dychymyg. Mae hi'n chwiliwr synhwyrus llinell, delwedd a lliw, yn gyfrwng dargludo egni. Mae'r sgwrs rhwng beth y mae'n ei weld, sut y mae'n teimlo ynghylch beth y mae'n ei weld a'r deunyddiau y mae'n eu defnyddio. Mae'r ddelwedd ddilynol yn gludydd yr egni hwnnw.

Mae Maria yn defnyddio amrywiaeth eang o ddeunyddiau a chyfryngau er mwyn cyfleu ei syniadau ond mae'n gweld lluniadu yn arfer canolog. Mae'n synio am ei holl weithgareddau yn agweddau ar luniadu. Mae ei chyfuniad o luniadu sylwadol a'r nodau cyfleugar y mae'n eu gwneud mewn ymateb i sbardun, yn cyfuno mewn ffordd ddihafal bersonol, i gyfleu naws deimladol y testun.

Mae'n aml yn gwneud ei gwaith o ganlyniad i gydweithredu â chelfyddydau eraill: dawns, cerddoriaeth, theatr, ond mae'r gwaith yn bod yn ei rinwedd ei hun fel delweddau cyflawn.

Mae Maria yn croesawu ymholiadau ynghylch ymweliadau â'i stiwdio, arddangosfeydd a darnau comisiwn.

Mae'r prisiau'n amrywio o £80 am brint neu luniad bychan i £2000 am baentiad mawr.

Am ddelweddau ac enghreifftiau o'i Chelfyddydwaith a wnewch chi glicio'r delweddau ar y dde.

Cyfieithu

Celfyddydwaith

  • The Reckoning
  • Mapping
  • Manod Mud Woman
  • Long Walks
  • Long Walk(manylyn)
  • Long Walk(manylyn) #2
  • Manod
  • Divided Self
  • Destinations
  • Diversions
  • Metalla Bocca
  • Burn Your Boats

Cliciwch ddelwedd am fersiwn fwy