Maria Hayes: celfyddydwaith, darlunio ac addysg

Ynghylch Maria Hayes

Mae Maria Hayes yn gwneud ac yn dangos gwaith ledled y wlad ers 1986 mewn arddangosfeydd solo a grwp, mewnosodion a pherfformiadau. Bu Maria yn Artist Preswyl ar brojectau lawer ac mae wedi cwblhau gwaith comisiwn yn llwyddiannus.

Mae Maria wedi cyfuno hyn â dyfeisio a thraddodi gweithdai a rhaglenni hyfforddi fel hwyluswr ar ei liwt ei hun. Mae wedi gweithio gyda phob oed a gallu yn y rhan fwyaf o leoliadau.

Mae'r dudalen yma'n cyflwyno uchelfannau gwaith Maria. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y dudalen Curriculum Vitae.

Portread

Artwork and Illustration by Maria HayesErs 1986, bu Maria yn gwneud ac yn dangos gwaith mewn orielau ac mewn digwyddiadau byw trwy hyd a lled y DU. Mae'r rhan fwyaf o waith Maria yn ddau ddimensiwn, gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau gan gynnwys peintio, gwneud printiau, lluniadu a chyfryngau cymysg. Mae hi'n cael ei hysbrydoliaeth yn nhirwedd Gogledd Cymru ac yn y ffurf ddynol.

Mae ei gwaith mewn casgliadau preifat a chyhoeddus gartref a thrwy'r gwledydd ill dau.

Mae Maria hefyd wedi chwilio'n drylwyr y cysylltiad rhwng y llinell a dynnir a'r ffigwr yn symud ac mae wedi datblygu ffurf ar "beintio actol" byw ar y cyd â chwmnïau theatr a dawns megis Volcano Theatre Co a Paul Davies (NEWD).

Mae Maria yn cyfuno'r arfer yma â gwaith addysg a hyfforddi mewn ysgolion, orielau a sefydliadau Addysg Uwch ledled Cymru a'r DU. Comisiynir Maria yn rheolaidd i ddyfeisio a thraddodi gweithdai a chyrsiau hwy ym myd addysg y celfyddydau ac orielau.

Mae gan Maria brofiad o fentora, darlithio, ymchwil, curadu arddangosfeydd, gweinyddu yn y celfyddydau a rheoli projectau.

Medrau Allweddol

Cyfieithu